Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 15 Chwefror
2017
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4084
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Gofynnwyd y 7 cwestiwn.
Dechreuodd yr eitem am 14.53
Gwnaeth Huw-Irranca Davies ddaganiad ar Men’s Sheds Cymru.
Dechreuodd yr eitem am 14.54
Dechreuodd yr eitem am 15.13
NDM6239 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar yr Ymchwiliad ôl-ddeddfwriaethol i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2016.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Chwefror 2017.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.15
NDM6204
Hannah Blythyn (Delyn)
Jeremy Miles (Castell-nedd)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod mis Chwefror yn Fis Hanes LGBT, ac yn gyfle blynyddol i hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb ledled Cymru.
2. Yn nodi ymhellach gyfraniad pobl LGBT a mwy i'n cymunedau a'n gwlad.
3. Yn cydnabod y rôl a chwaraeir gan eiconau a chyfeillion LGBT yng Nghymru, fel y dangosir gan yr arddangosfa eiconau a chyfeillion LGBT yn y Senedd y mis hwn.
4. Yn croesawu'r cynnydd a wnaed yn y degawdau diwethaf o ran derbyn LGBT ac o ran eu hawliau.
5. Yn credu bod angen bod yn effro i sicrhau bod hawliau LGBT a mwy yn cael eu diogelu.
6.
Yn cymryd yr awenau o ran parhau i hybu cydraddoldeb a herio
gwahaniaethu ac anghydfod, gan sicrhau bod Cymru yn genedl
groesawgar i bobl LGBT a mwy.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.19
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6240 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pa mor bwysig i unigolion a busnesau pob cymuned yng Nghymru yw cyngor ariannol a gwasanaethau bancio sy'n hawdd cael gafael arnynt.
2. Yn gresynu bod canghennau banciau a chymdeithasau adeiladu yn cau mewn cymunedau ledled Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
i) archwilio pob opsiwn ar frys er mwyn diwallu anghenion ariannol unigolion a busnesau yng Nghymru; a
ii) archwilio'r camau deddfwriaethol a rheoleiddiol
angenrheidiol i sefydlu modelau amgen o ddarparu gwasanaethau
bancio, gan gynnwys Banc Pobl Cymru tebyg i'r banciau cynilo
lleol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
35 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg):
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu gwaith Llywodraeth Cymru wrth hyrwyddo cynhwysiant ariannol, gan gynnwys cymorth ar gyfer gwasanaethau cynghori ac undebau credyd, a'r uchelgeisiau a ddisgrifir yn Strategaeth Cynhwysiant Ariannol 2016 ar gyfer system ariannol yng Nghymru sy'n gynhwysfawr ac yn gweithio'n dda.
Yn cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gydweithio â phartneriaid er mwyn gwella mynediad at wasanaethau credyd ac ariannol fforddiadwy a gwybodaeth ar gyfer unigolion, gan gynnwys cyngor ar ddyledion.
Yn
cydnabod yr angen i wella gallu ariannol yng Nghymru ac yn nodi'r
gwaith sy'n mynd rhagddo er mwyn sefydlu Banc Datblygu Cymru a'i
uned wybodaeth a fydd yn targedu'n well wasanaethau a chyngor
ariannol ar gyfer microfusnesau a busnesau bach a chanolig yng
Nghymru."
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
4 |
18 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
[Derbyniwyd gwelliant 1, felly cafodd gwelliant 2 ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 3.
Paul Davies (Preseli Sir
Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn
croesawu'r adolygiad annibynnol, "Access to Banking Protocol One
Year on Review" gan yr Athro Russel Griggs OBE, a gyhoeddwyd fis
Tachwedd 2016.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
10 |
4 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4.
Paul Davies (Preseli Sir
Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn croesawu cytundeb Partneriaeth newydd y Swyddfa Bost â Banciau'r DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6240Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pa mor bwysig i unigolion a busnesau pob cymuned yng Nghymru yw cyngor ariannol a gwasanaethau bancio sy'n hawdd cael gafael arnynt.
2.
Yn gresynu bod canghennau banciau a chymdeithasau adeiladu yn cau
mewn cymunedau ledled Cymru.
3. Yn croesawu gwaith Llywodraeth Cymru wrth hyrwyddo cynhwysiant ariannol, gan gynnwys cymorth ar gyfer gwasanaethau cynghori ac undebau credyd, a'r uchelgeisiau a ddisgrifir yn Strategaeth Cynhwysiant Ariannol 2016 ar gyfer system ariannol yng Nghymru sy'n gynhwysfawr ac yn gweithio'n dda.
Yn cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gydweithio â phartneriaid er mwyn gwella mynediad at wasanaethau credyd ac ariannol fforddiadwy a gwybodaeth ar gyfer unigolion, gan gynnwys cyngor ar ddyledion.
Yn cydnabod yr angen i wella gallu ariannol yng Nghymru ac yn nodi'r gwaith sy'n mynd rhagddo er mwyn sefydlu Banc Datblygu Cymru a'i uned wybodaeth a fydd yn targedu'n well wasanaethau a chyngor ariannol ar gyfer microfusnesau a busnesau bach a chanolig yng Nghymru."
4. Yn croesawu'r adolygiad annibynnol, "Access to Banking Protocol One Year on Review" gan yr Athro Russel Griggs OBE, a gyhoeddwyd fis Tachwedd 2016.
5. Yn croesawu cytundeb Partneriaeth newydd y Swyddfa Bost â Banciau'r DU.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
I Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:
David Rees (Aberafan): Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw mewn perthynas â balot gweithlu Tata ynghylch dur, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch pa drafodaethau y mae wedi'u cael i sicrhau bod yr ymrwymiad i fuddsoddi mewn cynhyrchu dur ym Mhort Talbot yn ddiogel?
Dechreuodd yr eitem am 18.16
Dechreuodd yr eitem am 18.42
Dechreuodd yr eitem am 18.45
NDM6238 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Mynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd yng Nghymru, gweithio mewn partneriaeth.
Daeth y cyfarfod i ben am 19.04
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 28 Chwefror 2017